I weld y cylchlythyr hwn yn Saesneg, cliciwch yma.
Diweddariad Cenedlaethol: Cynadleddau Rhanbarthol y Llysgenhadon Ifanc 2024

Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethon ni gynnal ein Cynadleddau Rhanbarthol blynyddol ar gyfer y Llysgenhadon Ifanc yng Ngholeg Sir Gâr, Coleg Menai a Choleg Merthyr Tudful, gyda mwy na 200 o bobl ifanc a 45 o aelodau staff yn bresennol. Fe gyflwynwyd y tair cynhadledd yn wych gan ein panel Llysgenhadon Ifanc Cenedlaethol ni, gyda chefnogaeth gan ein Llysgenhadon Ifanc AB. I arddangos y gweithgareddau a gyflwynwyd yn y gynhadledd, fe wnaeth Osian a Rhodri, sy’n fyfyrwyr ar y cwrs cynhyrchu cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr, ffilmio’r diwrnod wnaeth eu coleg nhw ei gynnal a chreu ffilm fer wych, a gallwch ei gweld yma.
Sylw i Awdurdod Lleol: Chwaraeon Met Caerdydd
Y tymor yma, fe gyflwynodd Chwaraeon Met Caerdydd eu hyfforddiant Llysgenhadon Ifanc Efydd cyntaf ers covid. Cyflwynwyd yr hyfforddiant i 30 o blant o amrywiaeth o ysgolion cynradd ar draws y brifddinas gan eu Llysgenhadon Ifanc AU. I weld digwyddiadau’r dydd, edrychwch ar y ffilm yma gafodd ei chreu gan fyfyriwr BSc Cyfryngau Chwaraeon Prifysgol Met Caerdydd, Ellie Place.
Sylw i Goleg: Coleg Cambria: Diwrnod Arweinwyr Merched Actif Mae Llysgenhadon Ifanc Coleg Cambria wedi bod yn defnyddio ein chwe egwyddor Merched Actif i helpu i gael mwy o ferched ar y campws yn iach ac yn actif, drwy oresgyn rhwystrau a heriau sy’n atal cymryd rhan. Os ydych chi’n bwriadu gwneud rhywbeth tebyg, edrychwch ar yr astudiaeth achos o'u dull nhw yma.
A darganfyddwch fwy am ein rhaglen Merched Actif yma.
Sylw i Lysgennad Ifanc – Emily Thompson: BBC Radio Wales

Yn ddiweddar, cafodd aelod o banel Llysgenhadon Ifanc Cymru, Emily Thompson, gyfle i gyflwyno persbectif llais ieuenctid o ran pam mae lefelau hyfforddi merched ledled y DU yn dirywio mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales. Pan holwyd Emily am ddyfodol hyfforddi merched, ei hymateb oedd “os na allwch chi ei weld e, allwch chi ddim ei wneud e”, gan bwysleisio pwysigrwydd modelau rôl benywaidd mewn chwaraeon ac, yn benodol, hyfforddi. Diolch, Chwaraeon Cymru a BBC Radio Wales, am roi cyfle i Emily hyrwyddo hyfforddiant merched a rhannu ei stori.
Llwyddiant Cyn-fyfyrwyr
Llongyfarchiadau i Lily Morgan ar ennill gwobr ‘Ymgyrchydd Ifanc y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Changemaker yr Youth Sport Trust. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am siwrnai Lily.

Llongyfarchiadau hefyd i Guto Thomas-Young, sydd, ar ôl cefnogi Fforwm Diogelu Chwaraeon yr NSPCC yng Nghymru, wedi cael gwahoddiad bellach i ymuno â Grŵp Ffocws Hyfforddi Effeithiol Chwaraeon Cymru.

Cynhadledd yr Youth Sport Trust 2025
Mae Cynhadledd yr Youth Sport Trust yn dychwelyd dydd Mercher 26 Mawrth 2025 yng Nghanolfan Ryngwladol Telford. Mae’r thema eleni’n canolbwyntio ar bileri newydd y mudiad Well Schools, gan dynnu sylw at sut gall cydweithredu greu’r genhedlaeth hapusaf ac iachaf o ddysgwyr ifanc ac ysbrydoli ysgolion actif a llewyrchus ledled y wlad. Archebwch eich tocynnau nawr.
Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol 2025
Gyda chefnogaeth Sports Direct ac Under Armour, bydd ein hymgyrch ni yn 2025 yn digwydd rhwng 16 a 22 Mehefin 2025 a bydd yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu’r Youth Sport Trust. Rydym yn galw ar ysgolion ledled y DU i ymuno â ni yn ystod yr wythnos i gynnal diwrnod mabolgampau mwyaf erioed y DU a chroesawu dull Actif Bob Amser o weithredu – gan hyrwyddo 60 munud y dydd o AG, chwaraeon a chwarae i bob plentyn. Darganfyddwch fwy yma.
Hyfforddiant Cynhwysiant Am Ddim
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn darparu Hyfforddiant Cynnwys Anabledd Lefel 1 am ddim i bob hyfforddwr, gwirfoddolwr, athro a staff addysg tan fis Ebrill 2025. Mae’r cynnwys yn rhoi sylw i gyfathrebu effeithiol, y model cynhwysiant gweithgarwch, creu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu, y model swyddogaethol o anabledd a’r fframwaith STEP. I gael gwybod mwy edrychwch yma.
Gwobrau Plant Cymru 2025

Mae’r enwebiadau ar agor nawr i bleidleisio ar gyfer gwobrau Plant Cymru. Ymhlith y categorïau mae Arweinydd Ifanc, Arwr Chwaraeon Ifanc a Hyrwyddwr Cymunedol y Flwyddyn. Bydd yr enwebiadau’n cau ar ddydd Llun 9 Mehefin, gyda’r gwobrau’n cael eu cynnal ar ddydd Gwener 12 Medi yn Abertawe. Dyma’r ddolen i enwebu Llysgennad Ifanc!
Adnoddau Am Ddim
Chwilio am ysbrydoliaeth i greu mwy o bobl ifanc iachach a mwy actif? Os felly, edrychwch ar yr adnoddau isod:
- Heriau Gweithgarwch Corfforol: Heriau Gweithgarwch Corfforol 60 Eiliad
- Clybiau Brecwast Actif: Clybiau Brecwast Actif
- Clybiau Allgyrsiol: Astudiaethau Achos Chwaraeon Allgyrsiol
- Pecyn Adnoddau Llais Ieuenctid: Adnoddau Llais Ieuenctid
Dyddiadau i’r Dyddiadur
Isod mae rhestr o ddigwyddiadau a mentrau cenedlaethol y gall y Llysgenhadon Ifanc eu defnyddio i ddylanwadu, arwain ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan actif yn ystod y flwyddyn academaidd yma:
- 31 Ionawr - 15 Mawrth: Rygbi’r Chwe Gwlad (Dynion) 2025
- 6 Mawrth: Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr
- 8 - 16 Mawrth: Y Gemau Olympaidd Arbennig - Gemau Gaeaf y Byd (Yr Eidal)
- 17 Mawrth: Cwpan y Byd Kabaddi 2025 Gorllewin Canolbarth Lloegr, Lloegr
- 22 Mawrth: Pencampwriaethau Pili Pala (Nofio) Cenedlaethol Cymru 2025
- 22 Mawrth – 26 Ebrill: Rygbi’r Chwe Gwlad (Merched) 2025
Tagiwch straeon, lluniau a/neu fideos eich Llysgenhadon Ifanc i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ni i @YACymru ar X, Instagram, Facebook neu LinkedIn.
Cyfryngau Cymdeithasol
- X: YACymru
- Facebook: Young Ambassadors Wales
- Instagram: yacymru