I weld y cylchlythyr hwn yn Saesneg, cliciwch yma.
Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol 2025
Fel rhan o daith fawreddog yr Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol o amgylch y wlad, roeddem yn ffodus iawn i ymweld ag Ysgol Gynradd Tredegarville yng Nghaerdydd. Cawsom ddiwrnod mor wych gyda'r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwasanaeth boreol actif a Tom Haffield (mentor athletwr), Anna (Aelod o Banel Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc) ac Emily (aelod o Fwrdd Ieuenctid YST) yn arwain sesiwn gweithgareddau aml-sgiliau. Diolch yn fawr iawn i Tredegarville am fod mor groesawgar!
Llongyfarchiadau enfawr hefyd i Ysgol Gyfun Treorci ar ennill Gwobr NSSW2025.

Sylw i Awdurdod Lleol
Rhondda Cynon Taff
Cynhaliodd Chwaraeon RhCT ddigwyddiad dathlu ym Mharc Chwaraeon PDC ar gyfer eu Llysgenhadon Ifanc. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae eu Llysgenhadon Ifanc wedi gwirfoddoli mwy na 1,500 o oriau i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hysgolion!

Sir Gâr
Cynhaliodd Llysgenhadon Ifanc Sir Gâr ddigwyddiad dathlu hefyd i ddathlu eu pobl ifanc. Roedd y digwyddiad ei hun yn cynnwys partneriaid lleol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol yn dod at ei gilydd i gyflwyno sesiynau gweithgareddau i'r llysgenhadon ifanc. Eleni roedd bron i 200 o blant yn bresennol yn y digwyddiad, a chawsant i gyd gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon gwahanol.
Rydym yn ddiolchgar iawn i'r llysgenhadon ifanc sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy gyflwyno gweithgareddau yn eu hysgolion eu hunain a rhoi eu hamseroedd egwyl i gyflawni eu rôl fel Llysgennad Ifanc. Mae'r digwyddiadau yma’n ffordd o ddweud diolch yn fawr iawn iddyn nhw am eu holl waith caled.

Graddio’r Llysgenhadon Ifanc
Ym mis Awst cynhaliwyd graddio Panel Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc 24/25. Roedd yn gyfle gwych i ddod â rhai o aelodau ein Panel Cenedlaethol ni i adlewyrchu ar eu siwrneiau a beth maen nhw wedi'i gyflawni. Roedd gennym ni siaradwyr o CIMSPA, ENGSO Youth a Portal Training i siarad am gyfleoedd addysg a chyflogaeth yn y sector chwaraeon ac arweiniodd Chwaraeon Cymru sesiwn ymarferol ar y Fframwaith Sylfeini i Gymru. Daeth y diwrnod i ben gyda'r panel yn derbyn eu tystysgrifau! Diolch yn fawr iawn i'n Panel Cenedlaethol ni am eu holl help eleni a dymunwn y gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

Gwobrau Young Changemakers 2025 – Enillydd Ymgyrchydd Ifanc
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod cyn-aelod o Banel Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc, Ethan Benningwood, wedi cael ei enwi'n enillydd yng Ngwobrau Young Changemakers yr Youth Sport Trust ar gyfer 2025 – yn y categori Ymgyrchydd Ifanc.
Mae dewis Ethan fel Ymgyrchydd Ifanc eleni yn adlewyrchu ei ymrwymiad nodedig i wneud chwaraeon yn hygyrch, yn bleserus ac yn rymusol i bobl eraill. Fel model rôl yn ei glwb pêl fasged a'r gymuned Gymraeg ehangach, mae Ethan wedi mynd yr ail filltir yn gyson i hybu cyfranogiad a hyrwyddo ffyrdd o fyw iach. Ei waith gyda Llysgenhadon Ifanc Cymru, ei ymroddiad i arweinyddiaeth gynhwysol, a'i ymdrechion rhagweithiol i gefnogi cyfoedion o bob gallu yw'r union bethau y mae’r wobr yma wedi’u chreu i’w cydnabod. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol ni am ffilm am wobr ac effaith Ethan!
Derbyniodd Ethan y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd yn ein digwyddiad Graddio ni ar gyfer y Llysgenhadon Ifanc, am drefnu her pêl fasged 24 awr yn ei glwb (Saethyddwyr Met Caerdydd) yn ddiweddar i godi arian ar gyfer yr Youth Sport Trust!

Panel Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc 25/26
Llongyfarchiadau enfawr i'r rhai sydd wedi cael eu dewis ar gyfer Panel Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc o bob cwr o Gymru.
- Gracie J (Powys)
- Rose J (Powys)
- Hollie C (RhCT)
- Lucy F (Sir Gaerfyrddin)
- Junior P (Caerffili)
- Hannah W (Caerffili)
- Max B (Pen-y-bont ar Ogwr)
- Kira L (Sir Ddinbych)
- Imogen W (Abertawe)
- Millie B (Castell-nedd a Phort Talbot)
- Martha A (Merthyr Tudful)
- Alannah H (Sir Benfro)
- Evie H (Wrecsam)
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol ni i gael gwybod mwy am aelodau Panel Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc.
Cynadleddau’r Llysgenhadon Ifanc
Mae cynadleddau’r Llysgenhadon Ifanc yn prysur agosáu. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru eich pobl ifanc i fynychu eu cynhadledd berthnasol!
- 23 Hydref – Canolbarth Cymru (Maes Sioe Frenhinol Cymru)
- 07 Tachwedd – Gogledd Cymru (Coleg Llandrillo)
- 21 Tachwedd – De Orllewin Cymru (Coleg Sir Gâr)
- 28 Tachwedd – Canolbarth y De / Dwyrain Cymru (Coleg y Cymoedd)

Dyddiadau Chwaraeon Allweddol
- Prawf Lludw Rygbi'r Gynghrair – 22 Hydref – 10 Tachwedd
- Rygbi'r Undeb –Gemau Rhyngwladol yr Hydref yn dechrau ar 01 Tachwedd
- Gemau Olympaidd y Gaeaf – 06–22 Chwefror
- Rygbi'r Undeb – Twrnamaint y Chwe Gwlad yn dechrau ar 07 Chwefror
Social Media
- X: YACymru
- Facebook: Young Ambassadors Wales
- Instagram: yacymru