I weld y cylchlythyr hwn yn Saesneg, cliciwch yma.

Cynhadledd Llysgenhadon Ifanc Cymru 2025

Aeth ein cynadleddau Llysgenhadon Ifanc y llynedd â ni ar hyd a lled Cymru! Thema'r gynhadledd oedd cynyddu hyder ein Llysgenhadon Ifanc yn eu galluoedd arwain drwy dri gweithdy gwych: Rôl a Chyfrifoldebau, Hyrwyddo a Marchnata a sesiwn ymarferol yn canolbwyntio ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymru a’r Cwrs Meithrin Sylfeini ar gyfer Chwaraeon.

Wales Young Ambassador Conference 2025  Wales Young Ambassador Conference 2025

Hefyd fe gawson ni gyfle gwych i wobrwyo a chydnabod ein Llysgenhadon Ifanc y Flwyddyn, fel y pleidleisiwyd drostynt gan staff eu hawdurdod lleol. Da iawn i'r unigolion isod:

  • Oliver - Powys
  • Alannah – Sir Benfro                   
  • Sophie – Sir Gaerfyrddin                                              
  • Ysgol Gyfun Treforys – Abertawe                                            
  • Millie – CNPT                                                                            
  • Mia – Ynys Môn
  • Abi – Bro Morgannwg
  • Junior – Caerffili
  • Ethan - Sir y Fflint

Diolch o galon i Faes Sioe Frenhinol Cymru, Coleg Llandrillo, Coleg Sir Gâr a Choleg y Cymoedd am eu lletygarwch. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i'n Mentoriaid Athletwyr, y Tiwtoriaid, Chwaraeon Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a phanel Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc am wneud pob cynhadledd yn ysbrydoledig ac yn fythgofiadwy. Ac mae’r clod mwyaf i'n Llysgenhadon Ifanc ni a thimau Datblygu Chwaraeon yr Awdurdodau Lleol am ddod ag egni ac angerdd i bob gweithdy - rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fyddwch chi’n ei gyflawni nesaf!

   

 

Sylw i Awdurdod Lleol ac Ysgol

RhCT ac Ysgol Gynradd Cwmaman

Cwmaman

Mae RhCT yn cynnal Cystadleuaeth Llysgennad Ifanc y Mis i gydnabod a gwobrwyo llysgenhadon am eu holl waith caled. Llongyfarchiadau mawr i Oliver-May, Gracie-Leigh, Stella-Jean a Millie o Ysgol Gynradd Cwmaman am fod yn enillwyr mis Rhagfyr!

Ers mynychu Cynhadledd y Llysgenhadon Ifanc, maen nhw wedi cyflwyno clwb ar ôl ysgol Movement Matters i blant Blynyddoedd 5 a 6. Maen nhw wedi dysgu amrywiaeth eang o gemau, gan annog gwaith tîm a hwyl actif i bawb. Mae'r gweithgareddau wedi bod yn ddifyr, yn hwyliog ac yn gynhwysol!

Abertawe ac Ysgol Gynradd Clase

Clase

Fe hyfforddodd Tîm Chwaraeon ac Iechyd Abertawe fwy na 140 o Lysgenhadon Ifanc Efydd i ddechrau eu siwrnai arweinyddiaeth drwy chwaraeon. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys egwyddorion STEP ac EDD o ran cyflwyno ymarferol ac yn trafod pwysigrwydd creu amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol yn eu hysgol neu glwb. Da iawn i'r tîm yn Abertawe!

Dau berson ifanc a fwynhaodd y diwrnod oedd Archie a Mia o Ysgol Gynradd Clase. “Fe gawson nhw ddiwrnod gwych yn yr hyfforddiant Llysgenhadon Ifanc Efydd ac maen nhw bellach yn barod i greu effaith a dysgu ffyrdd newydd o ysbrydoli eraill!

Abertawe ac Ysgol Gynradd Clase

Morgan Jones yn ymuno â’r Youth Sport Trust fel Rheolwr Datblygu – Cymru

Shwmae! Rydw i wedi ymuno â’r Youth Sport Trust yn ddiweddar fel Rheolwr Datblygu – Cymru. Rydw i'n credu'n gryf ym mhŵer llais ac arweinyddiaeth ieuenctid. Byddaf yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith y Llysgenhadon Ifanc, y Panel Cenedlaethol a phartneriaid ehangach i dyfu mudiad y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'n gilydd yn y dyfodol. Diolch.” - Morgan Jones

Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol 2026

National School Sports Week 2026

Mae’r Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol (NSSW) yn dychwelyd o ddydd Llun 6ed Gorffennaf i ddydd Sul 12fed Gorffennaf 2026, gan ddod ag ysgolion, sefydliadau a chymunedau at ei gilydd i hyrwyddo manteision addysg gorfforol, chwarae a chwaraeon o ran newid bywydau. Mae’r cofrestru cynnar ar agor bellach, gan roi cyfle i ysgolion fod ar y blaen a datgloi amrywiaeth o adnoddau am ddim a chefnogaeth. I ysgolion yng Nghymru, mae'r dathliad blynyddol yma’n cynnig cyfle gwych i dynnu sylw at werth symudiad, hybu lles a chefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial drwy weithgarwch corfforol.

Cofrestrwch yma.

Dyddiadau Chwaraeon Allweddol

  • Pencampwriaeth Rygbi Chwe Gwlad y Dynion – 5ed Chwefror – 14eg Mawrth
  • Gemau Olympaidd y Gaeaf – 6ed Chwefror – 22ain Chwefror
  • Cwpan Criced y Byd T20 y Dynion – 7fed Chwefror – 8fed Mawrth
  • Gemau Paralympaidd y Gaeaf – 6ed Mawrth – 15fed Mawrth
  • Pencampwriaethau Athletau Dan Do'r Byd – 20fed Mawrth – 22ain Mawrth
  • Prif Gystadleuaeth Golff y Meistri i Ddynion – 9fed Ebrill – 12fed Ebrill
  • Pencampwriaeth Rygbi Chwe Gwlad y Merched – 11eg Ebrill – 17eg Mai
  • Marathon Llundain – 26ain Ebrill
  • Pencampwriaeth Tennis Agored Ffrainc – 24ain Mai – 7fed Mehefin
  • Rownd Derfynol Cwpan yr FA y Dynion – 18fed Mai
  • Rownd Derfynol Cynghrair Ewropa – 20fed Mai
  • Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr y Merched – 23ain Mai
  • Rownd Derfynol Cwpan yr FA y Merched – 31ain Mai.

Cyfryngau Cymdeithasol